SL(6)272 Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Diben Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (y “Rheoliadau”) yw nodi'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Ni chaiff pobl sydd wedi'u hanghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd na bod ynghlwm wrth reoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd.

Mae’r Rheoliadau’n dirymu rheoliadau tebyg o 2010 ac yn diweddaru’r rhestr o droseddau, gorchmynion a phenderfyniadau sy’n anghymhwyso rhywun rhag gweithio mewn gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru.

Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn cynnwys rhagor o droseddau ychwanegol y tu hwnt i'r rhai sy'n ymddangos ar hyn o bryd yn y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr. Mae’r rhain yn cynnwys troseddau sy’n gysylltiedig â voyeuriaeth a’r defnydd o drais, bygythiadau neu unrhyw fath o orfodaeth i orfodi person arall i briodi.

Mae’r Rheoliadau’n dileu darpariaethau sy’n anghymhwyso pobl rhag cael eu cofrestru i ddarparu gofal plant rheoleiddiedig ar sail y ffaith eu bod yn byw gyda rhywun sydd wedi’i anghymhwyso neu fod rhywun sy’n gweithio yn eu haelwyd wedi’i anghymhwyso. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu rhai anghysondebau yn y rheoliadau presennol i sicrhau nad yw pobl sydd wedi bod yn destun Gorchymyn Gofal neu Orchymyn Goruchwylio eu hunain yn y gorffennol yn cael eu hanghymhwyso'n awtomatig rhag cofrestru.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pedwar pwynt technegol a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae “gorchymyn gwarcheidiaeth” yn golygu “gorchymyn perthnasol” at ddibenion y Rheoliadau.  

Diffinnir gorchymyn gwarcheidiaeth yn nhroednodyn 1 ar dudalen 5 drwy gyfeirio at adran 30(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 ("Deddf 2000").

Fel yr eglurwyd yn y troednodyn, mae adran 30 o Ddeddf 2000 wedi’i diddymu.  Mae'n ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed penodol yn OS. 2012/2231, ond nid yw’r rhain yn ymestyn i adran 30.

Mae'n aneglur felly a yw'r term 'gorchymyn gwarcheidiaeth' wedi'i ddiffinio'n fwriadol drwy gyfeirio at ddarpariaeth a ddiddymwyd, neu a yw'n gamgymeriad.

Gofynnir am ymateb gan Lywodraeth Cymru i egluro.

2. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 12(3) yn nodi ei fod yn diwygio ac yn amnewid dyddiad yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Mae’n nodi’r canlynol:

            […] yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) yn lle “2010” rhodder “2022”. [ychwanegwyd pwyslais]

Mae pedwar gwahanol baragraff (a) yn rheoliad 2, felly, nid ydym yn ystyried bod y drafftio ar gyfer yr amnewidiad hwn yn ddigon manwl.

Mae rheoliad 2 yn ddarpariaeth ddehongli ac mae ar ffurf rhestr heb ei rhifo. Mae paragraff 7.17(1) o ganllawiau Drafftio Deddfau i Gymru yn nodi mai’r ffordd fwyaf manwl gywir o nodi lleoliad diwygiad, wrth fewnosod eitem ar restr heb ei rhifo, yw nodi’r cofnod presennol y mae’r mewnosodiad yn cael ei wneud ar ei ôl.

Yn hyn o beth, rydym o’r farn y byddai’r drafftio a ganlyn yn nodi’n gliriach y lleoliad a fwriedir ar gyfer yr amnewidiad:

[…] yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “anghymhwyso”, ym mharagraff (a) […]

3. Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau yn rhestru nifer o orchmynion a phenderfyniadau sy'n anghymhwyso person rhag cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.

Yn benodol, mae paragraffau 21(b) ac (c) o Atodlen 1 (y “Paragraffau Perthnasol”) yn ymwneud ag amgylchiadau sy’n anghymhwyso person o ganlyniad i ddyfarniadau penodol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“DSG 2000”).

At y dibenion hyn, mae’r Paragraffau Perthnasol ill dau yn cyfeirio at adran 20(1) o DSG 2000.  Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn frys ar gyfer canslo yn Lloegr.  Gwneir darpariaeth debyg ar gyfer Cymru yn adran 20A o DSG 2000, ond nid yw’r adran hon wedi’i chynnwys yn y Paragraffau Perthnasol.

Gofynnir am ymateb gan Lywodraeth Cymru i egluro a yw adran 20A o DSG 2000 wedi’i hepgor yn fwriadol o’r Paragraffau Perthnasol. 

4. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Ym mharagraff 2(e) o Atodlen 2 i'r Rheoliadau, mae “gross indecency” wedi ei gyfieithu fel “anwedduster garw”.

Er y nodwn fod “anwedduster garw” wedi’i ddefnyddio’n flaenorol mewn offerynnau statudol Cymru; Nid yw “garw” yn gyfieithiad amlwg o “gross” yn y cyd-destun hwn.

Nodwn fod “gross indecency” yn cael ei gyfieithu’n amlach fel “anwedduster difrifol” neu “anwedduster dybryd”, ac rydym yn ystyried y cyfieithiadau hyn yn fwy priodol. 

Yn hyn o beth, byddai’n ddefnyddiol safoni’r cyfieithiad i sicrhau cywirdeb a chysondeb deddfwriaeth Cymru.

5. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Ym mharagraff 2(j) o Atodlen 2, mae anghysondeb o ran y rhifau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg.

Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at adran 30 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1965.  Mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at adran 29 o'r Ddeddf.

Yn seiliedig ar y geiriau mewn cromfachau ym mharagraff 2(j), mae'n ymddangos bod y testun Saesneg yn gywir.

6. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Ym mharagraff 1(4)(i) o Atodlen 2, mae anghysondeb o ran y rhifau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg.

Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at adran 63 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.  Mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at adran 64 o'r Ddeddf.

Yn seiliedig ar y geiriau mewn cromfachau ym mharagraff 1(4)(i), mae'n ymddangos bod y testun Saesneg yn gywir.

7. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Dylai’r cyfeiriad at adran 23 o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 (“Deddf 2003”) ym mharagraff 1(16)(c) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau fod yn gyfeiriad at adran 3 o Ddeddf 2003.

Mae adran 3 o Ddeddf 2003 yn ymwneud â’r drosedd o gynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio organau rhywiol merch dramor, fel y cyfeirir ato yn yr Atodlen i’r Rheoliadau.  Nid yw Deddf 2003 yn cynnwys adran 23.

Mae'r gwall hwn hefyd yn y testun Cymraeg.

8. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r cyfeiriad at adran 4 o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 ("Deddf 2003") ym mharagraff 1(16)(d) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn anghywir.

Mae adran 4 o Ddeddf 2003 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â natur alldiriogaethol troseddau a gyflawnir o dan Ddeddf 2003. 

Fodd bynnag, mae paragraff 1(16)(d) o Atodlen 3 yn cyfeirio at y drosedd o “methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu”, sef adran 3A o Ddeddf 2003. 

9. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 2(6)(c) i Atodlen 3 yn cyfeirio at “troseddau sy'n ymwneud â maethu preifat” o fewn adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (“Deddf 1984”).

Teitl adran 15 o Ddeddf 1984 yw 'Troseddau sy'n ymwneud â phlant maeth' (‘Offences related to foster children’). 

Ein dealltwriaeth ni yw bod gan 'maethu preifat' ystyr gwahanol, gan gyfeirio'n gyffredinol at drefniadau maethu a wneir heb gyfraniad awdurdodau lleol. 

Nid yw'n ymddangos bod adran 15 o'r Ddeddf yn cwmpasu trefniadau o'r fath, a gallai cynnwys y gair 'preifat' ym mharagraff 2(6)(c) i'r Rheoliadau achosi dryswch.

Gofynnir am ymateb gan Lywodraeth Cymru i egluro.

10. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae'r cyfeiriad statudol ym mharagraff 3(9) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn anghywir.

Mae'r ddarpariaeth yn dyfynnu Gorchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2009. Hyd y gellir gweld, nid oes gorchymyn o’r fath o 2009.

Mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (O.S. 2008/1769), sef y cyfeiriad cywir yn ôl pob golwg.

11. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae'r cyfeiriad at “Cyfraith Jersey 1969” ym mharagraff 4(a) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn anghywir ac yn anghyflawn.  Dylai nodi “Cyfraith Plant (Jersey) 1969”.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pum pwynt a ganlyn ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

12. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Rheoliadau yn dirymu, yn disodli ac yn diweddaru “Rheoliadau 2010”[1].  Mae un newid polisi allweddol o Reoliadau 2010 yn ymwneud ag anghymhwyso rhag gofal plant rheoleiddiedig drwy gysylltiad

O dan Reoliadau 2010, gall person gael ei anghymhwyso rhag gweithio ym maes gofal plant yng Nghymru ar sail ei gysylltiad â rhywun sy’n byw neu’n gweithio yn ei gartref sydd wedi’i anghymhwyso (h.y. sydd wedi cyflawni trosedd neu wedi’i wneud yn destun gorchmynion neu benderfyniadau sy’n dod o fewn cwmpas Rheoliadau 2010).

Mae Rheoliadau 2022 wedi'u drafftio i ddiddymu’r ddarpariaeth ynghylch anghymhwyso drwy gysylltiad mewn perthynas â phersonau cofrestredig sy'n darparu gofal plant mewn mangre annomestig (fel arfer person sy'n darparu gofal i ffwrdd o'i gartref, megis mewn lleoliad gofal dydd).

Effaith hyn yw nad yw person yn cael ei anghymhwyso rhag darparu gofal plant rheoleiddiedig mewn mangre annomestig, er ei fod yn byw gyda rhywun sydd wedi'i anghymhwyso. Fodd bynnag, mae'r ddogfen ymgynghori ar gyfer y Rheoliadau yn nodi’r canlynol:

bydd y ddarpariaeth yn dal i fod yn berthnasol i'r rhan fwyaf o warchodwyr plant sy'n gweithio o'u cartref”.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r newid polisi hwn (ac eraill) wedi'i gynnwys yn y Memorandwm Esboniadol. 

Mae'n nodi bod lefel y risg i ddiogelwch plant sy'n deillio o gysylltiad person cofrestredig mewn lleoliadau annomestig “yn sylweddol is” na'r risg mewn lleoliadau domestig. Mae hefyd yn nodi y bydd newid o’r fath yn alinio polisïau ar draws Cymru a Lloegr

13. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddrafft o’r Rheoliadau rhwng 31 Mawrth a 23 Mehefin 2022.  Mae’r Pwyllgor yn nodi’r paragraffau a ganlyn o’r Memorandwm Esboniadol:

Cafodd yr ymgynghoriad ei ddwyn i sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys yr holl ddarparwyr gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig, awdurdodau lleol, Comisiynydd Plant Cymru, a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cynrychioli'r sefydliadau gofal plant a gwaith chwarae. […]

Cafwyd cytundeb cyffredinol ynghylch yr holl gynigion yn yr ymgynghoriad. Penderfynwyd nad oedd angen gwneud unrhyw welliannau i’r Rheoliadau. […]

14. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Pwyllgor yn nodi rhai pryderon ynghylch hygyrchedd y Rheoliadau

Rhaid i ddefnyddwyr y Rheoliadau wirio’r Atodlenni i ganfod pa orchmynion, dyfarniadau neu droseddau sy’n eu hanghymhwyso rhag ymwneud â gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru.  Yn gyffredinol, mae'r cofnod a restrir yn yr Atodlenni yn nodi'n glir y ddarpariaeth anghymhwyso.  Er enghraifft:

gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” [ychwanegwyd pwyslais]

Fodd bynnag, nid yw cyfeiriad at adrannau perthnasol pob offeryn cyfreithiol wedi’i gynnwys ar gyfer pob cofnod.  Un enghraifft yw paragraff 15 o Atodlen 1 i'r Rheoliad.  Mae hyn yn darparu bod person yn cael ei anghymhwyso os yw wedi bod yn destun:

Gorchymyn person addas, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968”.

Roedd y Ddeddf hon yn cynnwys 182 o adrannau.  Drwy beidio â mewnosod yn benodol rif yr adran berthnasol y gwnaed gorchmynion o’r fath oddi tano, mae’n anodd i’r darllenydd nodi darpariaethau perthnasol y Ddeddf a ddyfynnir.  Yn yr enghraifft benodol hon, mae’r anawsterau’n cael eu dwysáu gan fod y darpariaethau perthnasol wedi’u diddymu ers hynny ac efallai na fyddant ar gael heb feddalwedd ddeddfwriaethol arbenigol.

Rydym hefyd yn nodi pryderon hygyrchedd mewn perthynas â dyfynnu offerynnau cyfreithiol o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. 

Mae un enghraifft benodol yn ymwneud â pharagraff 23(f) o Atodlen 1 sy’n cyfeirio at Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001. Mae’r Rheoliadau’n nodi mai “Deddf Tynwald” yw hon. Y tro cyntaf i'r ymadrodd hwn gael ei ddefnyddio, rydym yn ystyried y byddai'n ddefnyddiol cynorthwyo'r darllenydd drwy ychwanegu troednodyn yn egluro mai ystyr hyn yw Deddf a basiwyd gan senedd Ynys Manaw.   At hynny, gan fod darpariaethau perthnasol y Ddeddf hon wedi’u diddymu, nid yw’n hawdd cael mynediad atynt. 

15. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Er bod y Pwyllgor yn nodi nad ydynt yn rhan o’r Rheoliadau hyn eu hunain, canfuwyd dros 40 o wallau yn y troednodiadau i’r Rheoliadau hyn a hysbyswyd swyddogion Llywodraeth Cymru am bob un ohonynt ar wahân. Mae troednodiadau ond yn ddefnyddiol i ddarllenwyr deddfwriaeth i’r graddau y maent yn gywir ac felly mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn gywir felly.

16. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Er bod y Pwyllgor yn nodi nad yw'r Nodyn Esboniadol yn rhan o'r Rheoliadau hyn eu hunain, nid yw'n glir a yw paragraff sy'n amlinellu rheoliad 9 yn gywir.

O dan reoliad 9, nid yw person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu rhag darparu gofal dydd os yw’n cael hepgoriad drwy gydsyniad ysgrifenedig, ac nad yw cydsyniad ysgrifenedig o’r fath wedi’i dynnu’n ôl.

Mae’r Nodyn Esboniadol yn nodi’r canlynol:

Nid yw rheoliad 9 yn gymwys pan fo’r anghymhwyso yn codi yn sgil cynnwys person ar Restr 99 neu’r rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, yn sgil gwahardd person rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf 2006 neu pan fo llys wedi gorchymyn na chaiff person weithio mewn cyswllt â phlant yn dilyn euogfarn am droseddau penodol yn erbyn plant.

 

Rydym yn dehongli 'Nid yw rheoliad 9 yn gymwys' yn y cyd-destun hwn i olygu na chaniateir hepgoriadau pan fo person wedi bod yn destun un o’r canlyniadau hyn. 

Fodd bynnag, ein dealltwriaeth o reoliad 9 yw y caniateir hepgoriadau mewn perthynas â’r holl ganlyniadau hyn, ac eithrio mewn perthynas â throseddau penodol yn erbyn plant o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 (fel y nodir yn rheoliad 9(2)).

Gofynnir am ymateb gan Lywodraeth Cymru i egluro.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r holl bwyntiau adrodd, ac eithrio pwyntiau 12 a 13.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

31 Hydref 2022

 



[1] Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010